Defnyddio Cynnwys Eilgylch – Prosiect o fewn y gadwyn gyflenwi

Treial Polyethylen (PE) a Pholyethylen Dwysedd Isel (LDPE) ar gyfer y Sector Adeiladu

Amcan y prosiect hwn oedd i arddangos ei bod yn bosibl cynnwys eilgylch – PE a haenen LDPE – yn llwyddiannus mewn tybiau morter deugroen, sydd llawn mor wydn a chydnerth â’u cymheiriaid newydd.

Mae'r prosiect yn ceisio goresgyn y rhwystrau i ddefnyddio LDPE eilgylch mewn nwyddau adeiladu – yn benodol, tybiau morter deugroen – a gynhyrchir trwy fowldio cylchdroadol. Mae pryderon ar hyn o bryd ynghylch y cyflenwad tymor hir o ddeunydd eilgylch addas y gellir ei ailgynhyrchu i’r lliwiau sydd eu hangen, a gwytnwch nwyddau o’r fath ar gyfer sector sy’n galw am nwyddau gwydn gyda meini prawf perfformiad cadarn. 

Bydd model cylchol o adennill yn cael ei archwilio yn nes ymlaen, i hwyluso casglu tybiau morter sy’n wastraff fel modd o sicrhau porthiant deunydd eilgylch.  Gellid efelychu’r dull dolen gaeedig hwn ar draws y diwydiant – a sectorau eraill – yng Nghymru a thu hwnt.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae partneriaid y treial yn cynnwys: Resilience Sustainable Solutions Ltd (partner arweiniol); Ysgol Fusnes ac Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd; Corilla Plastics Ltd; a Green Edge Applications Ltd.