Defnyddio Cynnwys Eilgylch – Prosiect o fewn y gadwyn gyflenwi

Treial Polypropylen (PP) ar gyfer y Sector Meddygol a’r Sector Nwyddau ar gyfer y Cartref

Amcan y prosiect hwn oedd arddangos defnydd llwyddiannus o gynnwys eilgylch ar gyfer cynhyrchu cadi gwastraff bwyd; fflap tryloyw a gyflenwir fel rhan o gynhwysydd nodwyddau meddygol; a chynhwysydd nodwyddau meddygol gan ddefnyddio prosesau amgen, fel labelu yn y mowld, i oresgyn cyfyngiadau’r deunydd o ran lliw, gorffeniad yr arwyneb a halogiad gweledol.

Gobeithir y bydd hyn yn ysgogi meddwl o’r newydd wrth ddylunio nwyddau a fydd, yn y pen draw, yn gyrru’r galw am PP eilgylch ac yn cryfhau’r economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae nwyddau targed yn cynnwys y canlynol, sydd oll yn cael eu cynhyrchu o ddeunydd PP, ac mae gan bob un fanyleb wahanol o ran nodweddion ffisegol a pherfformiad mecanyddol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae partneriaid y treial yn cynnwys: Technia Business Solutions Ltd (partner arweiniol); Addis Housewares Ltd; Frontier Plastics Ltd; a Synergy Plastics Ltd; a Synergy Plastics Ltd. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill, fel Canolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor a Choleg Peirianneg Prifysgol Abertawe.