Abstract Circles

Y Gronfa Economi Gylchol

Nid yw WRAP Cymru’n ymdrin â cheisiadau ar gyfer Cyllid yr Economi Gylchol newydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023; ar gyfer ceisiadau newydd, dilynwch y ddolen i Busnes Cymru, os gwelwch yn dda.

Yn 2019-2022, gweinyddodd WRAP Cymru gronfa gwerth £6.5 miliwn a oedd yn anelu at:

  • gynyddu’r defnydd o blastig, papur / cerdyn neu decstilau eilgylch mewn nwyddau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes; neu
  • ymestyn hyd oes nwyddau / deunyddiau drwy weithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, ailwampio neu ailgynhyrchu, gyda ffocws arbennig ar ddodrefn (meddal a chaled), offer trydanol, a dillad, tecstilau, ac esgidiau.

Mae cynhyrchu nwyddau sy’n cynnwys deunydd eilgylch ac ymestyn hyd oes ddefnyddiol nwyddau yn ganolog i wireddu economi gylchol. Mae’r Gronfa Economi Gylchol wedi helpu i sbarduno Cymru i symud tuag at hyn, gan hwyluso twf busnes a chreu swyddi newydd. Ei bwrpas yw galluogi buddsoddiad cyfalaf er mwyn cadw adnoddau’n ddefnyddiol cyhyd â phosibl, yn hytrach na’u llosgi neu eu hanfon i dirlenwi, ac i yrru’r galw am ddeunyddiau eilaidd.

Roedd yn rhaid i dderbynwyr brosiectau y gronfa:

  • gynyddu’r defnydd o blastig, papur / cerdyn neu decstilau eilgylch mewn nwyddau presennol neu rai newydd; neu
  • ymestyn hyd oes nwyddau / deunyddiau trwy weithgareddau i’w paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio neu ailgynhyrchu, yn canolbwyntio’n arbennig ar ddodrefn (meddal a chaled), cyfarpar trydanol, a dillad, tecstilau ac esgidiau (caiff prosiectau sydd eisiau defnyddio deunyddiau eraill eu hystyried fesul achos unigol)

Welsh Government Initiative Logo

Cyfleoedd grantiau a buddsoddiad pellach

Ynghyd â’r Gronfa Economi Gylchol a ddarperir gan WRAP Cymru yn arbennig ar gyfer sefydliadau yng Nghymru mae WRAP yn rheoli grantiau, benthyciadau a buddsoddiadau ar gyfer sefydliadau cymwys ar draws gweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Ewch draw i’r wefan am fwy o wybodaeth: www.wrap.org.uk/what-we-do/our-services/grants-and-investments (Saesneg yn unig).