Stacked Coffee Cups

Ffyrdd newydd o ddefnyddio’r 500,000 o gwpanau coffi untro yn y Deyrnas Unedig

14 Mawrth 2022

  • Treialon yng Nghymru’n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio eitemau ‘anodd eu hailgylchu’ trwy droi ‘gwastraff’ yn nwyddau newydd.
  • Cwpanau coffi a phecynnau creision yn cael eu troi’n ddecin, polypropylen eilgylch yn cael ei ddefnyddio i wneud cadis gwastraff bwyd a chynwysyddion meddygol.
  • Safonau’r diwydiant yn cael eu diweddaru o ganlyniad i lwyddiant wrth gynnwys plastigion eilgylch mewn cynwysyddion nwyddau miniog.

Mae prosiect arloesol o fewn y gadwyn gyflenwi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â WRAP Cymru, wedi cymryd nifer o eitemau anodd eu hailgylchu ac wedi llwyddo i’w troi yn eitemau newydd, yn cynnwys troi cwpanau coffi untro yn ddecin a deunyddiau adeiladu sy’n dal dŵr.

Tynnwyd sawl cwmni ynghyd ar gyfer y treial unigryw hwn a gynhaliwyd dros gyfnod o ddwy flynedd, yn cynnwys yr arbenigwyr cynaliadwyedd Nextek ac Ecodek, cynhyrchwyr decin cyfansawdd blaenaf y Deyrnas Unedig. Gyda’i gilydd, fe wnaethant greu eitem newydd arloesol: y decin cyfansawdd cyntaf yn y byd wedi’i wneud o gwpanau coffi untro wedi’u cyfuno â haenau wedi’u meteleiddio, fel y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnau creision.

Mae’r treial radical hwn yn un o bedwar prosiect a gymerodd eitemau o wastraff anodd ei ailgylchu a’u hailbrosesu i greu nwyddau newydd sbon sydd â marchnad derfynol eisoes. Eu nod yw newid y ffordd caiff plastigion untro eu defnyddio a’u gwaredu ar hyn o bryd, drwy greu deunyddiau sy’n ddichonol yn economaidd, yn gynaliadwy ac yn fuddiol yn amgylcheddol. Mae hyn yn alinio â thargedau’r UK Plastics Pact a’i waith ar ddatblygu marchnadoedd terfynol ar gyfer deunyddiau anodd eu hailgylchu.

Gall decin newydd 100% eilgylch Ecodek droi 200 o gwpanau coffi yn un metr sgwâr o ddecin newydd, sy’n golygu bod potensial gan y prosiect i ailgylchu rhan sylweddol o’r cwpanau coffi plastig untro sy’n mynd i dirlenwi neu losgi ar hyn o bryd.

Mae’r deunydd cyfansawdd hefyd yn cynnwys gwastraff haenau wedi’u meteleiddio o becynnau creision a deunyddiau pacio tebyg o’r cartref, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer decin y tu allan ac at ddibenion adeiladu sy’n galw am ddeunyddiau gwydn. Mae defnyddio eitemau gwastraff fel hyn yn golygu bod y deunydd yn fwy cynaliadwy a gellir ei gael i berfformio llawn cystal ag opsiynau llai cynaliadwy. Mae gan y deunydd canlyniadol botensial i’w ddefnyddio ar gyfer sawl math o nwyddau, ac mae ei strwythur yn ddigon cryf ar gyfer amrywiaeth o ddibenion adeiladu ar raddfa fawr. At hynny, i sicrhau cylcholdeb ei nwyddau newydd, mae Ecodek yn cynnig cynllun dychwelyd i sicrhau bod nwyddau’n cael eu hailgylchu yn eitemau newydd ar ddiwedd eu hoes.

Mae’r potensial i ddefnyddio hen gwpanau coffi untro yn anferthol, gan fod tua 3.2 biliwn o gwpanau ffibr-cyfansawdd wedi’u rhoi ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig yn 2019, a hanner miliwn o gwpanau coffi untro’n cael eu taflu bob dydd yn y Deyrnas Unedig – a dim ond 0.25% o’r rheiny sy’n cael eu hailgylchu (adroddiad WRAP ar ddeunyddiau pacio ffibr-cyfansawdd).

Claire Shrewsbury, Cyfarwyddwr Mewnwelediad ac Arloesi WRAP: “Mae’r prosiectau hyn yn cynnig rhywbeth unigryw sy’n cefnogi nwyddau a gynhyrchwyd ac ailgynhyrchwyd yn lleol, a hynny o ddeunyddiau crai eilgylch o Gymru. Maent yn cefnogi twf busnesau lleol, ac yn helpu pobl Cymru gael y gwerth mwyaf posibl o’r nwyddau hyn. Nid yn unig hynny, ond mae’r prosiectau anhygoel hyn oll yn gweithio tuag at yr un nod, sef helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chreu economi gylchol ar gyfer y deunyddiau anodd eu hailgylchu hyn. Gobeithiwn weld mwy o brosiectau fel y rhain yn ymddangos ledled y Deyrnas Unedig.”

Defnyddiwyd y deunydd eilgylch hefyd i adeiladu mainc bicnic sydd bellach wedi’i danfon i Goleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru. Gardd y coleg, ble bydd y fainc yn cael ei gosod, yw lleoliad y prosiect natur Mannau Lleol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, y mae pobl ifanc yn ei gynnal.  Mae’r Coleg hefyd wedi lansio cymwysterau NEBOSH (National Examination Board in Occupational Safety and Health) yn ddiweddar i gwrdd â’r galw am genhedlaeth newydd o arweinwyr ‘gwyrdd.

William Hogg, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Ecodek: “Mae Ecodek wedi bod wrth ein boddau’n cael bod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn i ddatblygu cyfle ailgylchu dolen gaeedig ar gyfer y deunyddiau hyn sy’n cael eu defnyddio mor helaeth, ac sydd â’r potensial i greu lleihad sylweddol yn y gwastraff a anfonir i dirlenwi.”

Yr Athro Edward Kosior, sylfaenydd Nextek: “Mae ein hymchwil i gyfansoddion papur-plastig wedi arwain at ddatblygu cyfansawdd unigryw sy’n manteisio ar botensial y cwpanau untro fel deunydd eilgylch gwerthfawr. Mae gan y cyfansoddyn hwn botensial i’w ddefnyddio ar gyfer sawl diben, o ddecin a dodrefn sy’n dal dŵr i gyflenwi deunyddiau adeiladu â strwythur gwydn ar raddfa llawer mwy, a gallai ei hirhoedledd, cryfder a’i amlbwrpasedd fod cystal â phren fel deunydd adeiladu, ac mewn gwirionedd mewn llawer o sefyllfaoedd, byddai’n well na phren. Mae gan hyn y potensial i weddnewid y ffordd yr ydym yn gweld gwastraff wrth inni ddysgu manteisio arno a chynaeafu ein fforest ddinesig.”

Treial a oedd yn cynnwys cynhyrchu cynwysyddion nwyddau miniog meddygol a gorchuddion diogelwch mewnol o bolypropylen 100% eilgylch (rPP) oedd yr ail brosiect, a fu’n gweithio gyda Frontier Plastics Ltd – rhan o’r Vernacare Group – ar eu safle yn Ne Cymru. Fe wnaethant hefyd lwyddo i gynnwys rPP wrth gynhyrchu cadi gwastraff bwyd a chompost ar gyfer y gegin a gynhyrchwyd gan y brand adnabyddus o Gymru, Addis Housewares Ltd.

Y ddwy eitem a ganolbwyntiwyd arnynt oedd cyfres o gynwysyddion ‘nwyddau miniog’ ac yna gorchuddion diogelwch mewnol ar gyfer cynwysyddion Sharpsafe melyn, a ddefnyddir ar gyfer gwastraff miniog meddygol, fel nodwyddau. Mae’r gyfres o gynwysyddion Sharpsafe melyn newydd a gynhyrchwyd drwy’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol a byddant yn cael eu cyflwyno ar draws sawl rhan o’r GIG. Mae safonau’r diwydiant hefyd wedi cael eu diweddaru i gydnabod ac annog cynnwys deunydd eilgylch yn y cynwysyddion, gan nad oedd sôn o gwbl ei bod yn dderbyniol defnyddio cynnwys eilgylch. Roedd hwn yn brosiect cymhleth, ac roedd yn rhaid iddo oresgyn diffyg hyder o du’r farchnad i ddechrau pan roedd PP eilgylch yn cael ei gyflwyno fel syniad. Ymhen amser, llwyddodd i ddangos mor ddibynadwy ac amrywiol yw’r deunydd, gyda phob eitem yn cael ei gynhyrchu i wahanol fanyleb ar gyfer perfformiad a nodweddion ffisegol.

Cynhaliwyd trydydd prosiect, a hwnnw’n archwilio sut i ailgylchu plastigion gwastraff amaethyddol cyffredin yn nwyddau newydd. Nod y rhaglen hon yw sbarduno’r galw am blastig amaethyddol eilgylch a chyfrannu at economi gylchol Cymru, a defnyddio’r ffrwd wastraff gyffredin hon ar draws ffermydd y genedl. Dangosodd y prosiect mor effeithiol yw’r broses o olchi’r plastig amaethyddol ymlaen llaw, a’i fod yn arwain at symiau mwy o ddeunydd y gellid ei ailgylchu. Fodd bynnag, mae angen mwy o waith ar hyn.

Cynhaliwyd pedwerydd prosiect a lwyddodd i greu tybiau morter ar gyfer y sector adeiladu o blastig eilgylch. Bu Corilla Plastics, Green Edge Applications a Phrifysgol Caerdydd yn cydweithio, a llwyddodd y tîm i ddod o hyd i fwy na 700 o dybiau morter a oedd ar eu ffordd i dirlenwi neu losgi. Gan ddefnyddio codau QR a ffonau symudol, fe wnaethant lwyddo i ymyrryd â’r broses hon i gasglu, ailgylchu a’u hailgynhyrchu i wneud tybiau morter newydd. Mae’r prosiect yn dangos mor effeithiol a llwyddiannus yw defnyddio cynnwys eilgylch mewn tybiau plastig ac mae’n annog y sector adeiladu i newid i ddefnyddio nwyddau o blastig eilgylch. Gellir cymhwyso canlyniadau’r treial hwn i unrhyw broses gynhyrchu a gellir eu defnyddio i gefnogi prosiectau tebyg, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang.

Nodiadau i olygyddion

Sefydliad anllywodraethol byd-eang wedi’i leoli yn y DU yw WRAP. WRAP yw un o’r 5 elusen amgylcheddol blaenaf yn y DU, ac mae’n gweithio gyda llywodraethau, busnesau ac unigolion i sicrhau y caiff adnoddau naturiol y byd eu defnyddio mewn modd mwy cynaliadwy. WRAP yw’r elusen sy’n arwain ar yr UK Plastics Pact (y cyntaf o’i fath yn y byd), Ymrwymiad Courtauld 2030, Textiles 2030 ynghyd â’r ymgyrchoedd ar gyfer dinasyddion, Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, Caru Eich Dillad, Clir ar Blastigion ac Ailgylchu Nawr. WRAP hefyd sy’n cynnal Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd ac Wythnos Ailgylchu yn y Deyrnas Unedig.  Mae WRAP yn gweithio’n gydweithredol ac yn datblygu ac yn cyflawni atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i leihau cost amgylcheddol y bwyd a fwytawn, y dillad a wisgwn a’r deunydd pacio plastig a ddefnyddiwn. Sefydlwyd WRAP yn y Deyrnas Unedig yn 2000, ac mae bellach yn gweithio gyda phartneriaid mewn deugain o wledydd, ar draws chwe chyfandir, ac mae’n Bartner y Gynghrair ar Gyfer Gweithredu Byd Eang ar gyfer Gwobr Earthshot y Sefydliad Brenhinol.  Dilynwch ein hymgyrchoedd dinasyddion ar Instagram: @lfhw_uk @recyclenow_uk @CymruYnAilgylchu @ClearOnPlastics @LoveYourClothes_UK 

  • Yn ogystal â’n gwaith ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, rydym yn cynnal pecyn o waith sy’n benodol i Gymru i gefnogi nodau amgylcheddol Llywodraeth Cymru dan yr enw WRAP Cymru.
  • Mae WRAP Cymru yn darparu cymorth sy’n benodol i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynnwys darparu’r Gronfa Economi Gylchol, cymorth caffael cynaliadwy ar gyfer y sector cyhoeddus, y Rhaglen Newid Gydweithredol ar gyfer awdurdodau lleol ac ymgyrch Cymru yn Ailgylchu. Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys rhaglenni sy’n cwmpasu’r Deyrnas Unedig gyfan, fel yr UK Plastics Pact.
  • Mae WRAP Cymru yn cefnogi defnyddio deunydd eilgylch mewn gweithgynhyrchu drwy’r Gronfa Economi Gylchol a phrosiectau o fewn y gadwyn gyflenwi, ac rydym yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus i gynyddu caffael nwyddau cynaliadwy.
  • Yr UK Plastics Pact yw’r fenter gyntaf o’i math yn y byd, yn gweithio tuag at greu economi gylchol ar gyfer plastigion. Mae’n tynnu ynghyd fusnesau ar draws y gadwyn werth plastigion yn ei chyfanrwydd, ynghyd â llywodraethau’r Deyrnas Unedig a sefydliadau anllywodraethol i fynd i’r afael â gwastraff plastig. Trwy ymuno â’r UK Plastics Pact, gall WRAP gynorthwyo eich busnes i wreiddio targedau’r Plastics Pact yn eich strategaethau busnes. Mae WRAP yn croesawu aelodau newydd drwy’r amser, o fanwerthwyr dillad i gyflenwyr nwyddau DIY a’r amgylchedd adeiledig; ymunwch â ni a chwarae eich rhan mewn creu economi gylchol ar gyfer plastigion.
  • Darllenwch Adroddiad Blynyddol 2020 yr UK Plastics Pact yma
  • Gwyliwch fideo Adroddiad Blynyddol yr UK Plastics Pact yma